Blog

Affogato

Mae Affogato’n bwdin hyfryd Eidalaidd wedi ei seilio ar goffi. Fel arfer hufen ia fanila wedi ei “foddi” (affogato ydi’r eidalaidd am foddi) mewn shot o Espresso cynnes.

Dyma’r linc i reset yr hufen ia nes i neud:

https://www.thekitchn.com/how-to-make-ice-cream-without-eggs-171619#post-recipe-10519

Mae’r reset yn defnyddio caws meddal a blawd corn i roi ansawdd hyfryd i’r hufen ia. Nes i ddefnyddio peiriant gwneud hufen ia, ond mae posib defyddio bowlan oer o’r rhewgell a troi’r cymysgedd yn rheolaidd bob yn ail a’i rhoi yn ol yn y rhewgell, os oes ganddoch y mynedd! Mae yna fantais defnyddio hufen ia heb wyau mewn affogato, mae blas wy fel tasa’n gweithio yn erbyn y coffi. Mae chydig yn drafferthus, ond yn flasus iawn!

Wedi gwned yr hufen ia a gadael iddo oeri’n iawn, rhowch un sgwp o hufen ia mewn desgyl a shot o espresso ar ei ben. Byddai unrhyw goffi cryf e.e. o mokapot, tebyg i hwn, yn iawn:

Dylai edrych yn debyg i hyn:

Maen bwysig cael hufen ia a coffi’n sydd yn cyd fynd, roeddwn i’n meddwl fod y cyfuniad o goffi eitha cryf, fel Guatemala Coffi Eryri yn gweithio’n fendigedig hefo’r hufen ia yma.