Description
Mae’r Red de Mujeres, neu’r “rhwydwaith o ferched”, yn grŵp mawr o gynhyrchwyr coffi benywaidd sy’n cwmpasu pum ardal wahanol o Huehuetenango. Mae’r grŵp yn cynnwys 830 o ferched. Mae yna wyth iaith Maya gwahanol a siaredir, gan amlygu yr amrywiaeth diwylliant ac iaith yn yr ardal yma o Guatemala.
Mae’r merched yma unai wedi eu gadael yn wragedd gweddwon yn ystod 36 mlynedd rhyfel cartref yn Guatemala, neu fe’u gadawyd pan ffodd gwÅ·r y wlad yn ystod yr argyfwng coffi rhwng 2001 a 2004.
Ers i Huehuetenango fod yn un o’r ardaloedd a gafodd eu taro galetaf gan yr argyfwng, penderfynodd llawer o bobl roi’r gorau i ffermio coffi yn gyfan gwbl a dod o hyd i waith yn rhywle arall, gan adael eu teuluoedd y tu ôl. Gyda chymorth ACODIHUE, mae’r cynhyrchwyr benywaidd hyn wedi bod yn unedig i farchnata eu coffi a dod o hyd i brynwyr rhyngwladol. Mae ACODIHUE hefyd wedi eu cefnogi i hyfforddi mewn dulliau ffermio organig, o cynhyrchu a defnyddio gwrtaith, i ddulliau rheoli rhwd a phlâu. Mae Falcon (y mewnforiwr coffi) wedi dechrau gweithio gydag ACODIHUE i gwella ansawdd y cynhyrchu hyd yn oed ymhellach, gan ddechrau gyda Red de Mujeres.
Reviews
There are no reviews yet.