Description
Mae’r felin brosesu yma wedi bod yn rhan o Carmo Coffees ers 2014 ac mae’n ganolfan prynu a phrosesu yn ddinas Helidora ar safle Fazenda Floresta. Mae’r ffatri brosesu hon yn caniatáu i’r cynhyrchwyr llai lleol gyflenwi eu ceirios i’r felin lle gall Carmo helpu i gymhwyso eu harbenigedd mewn prosesu yn ogystal â defnyddio eu rhaglen Blasau Newydd i greu proffiliau cwpan amrywiol a diddorol. Mae hyn yn caniatáu i ffermwr dderbyn prisiau uwch am eu coffi yna buddsoddi yn ôl yn eu ffermydd a’u teuluoedd gan edrych i’r dyfodol. Mae Carmo yn helpu i wella’r ansawdd gan darparu help trwy ddefnyddio peirianwyr a thechnegwyr agronomegydd i helpu’r ffermwyr i gynhyrchu ceirios o ansawdd uwch. Mae hyn hefyd yn lleihau’r risg i ffermwyr gyda’r prosesu yn cael ei ganoli gan gyfyngu ar ffactorau y tu allan i hynny gallai ddifetha’r coffi a’u hincwm blynyddol. Yn y ganolfan brosesu mae melin wlyb, 2 orsaf pwlpio dwbl a 9 sychwr mecanyddol. Yn 2015 buont yn gweithio gyda 1000 o ffermwyr, ond mae gan y ganolfan y potensial i wasanaethu i fyny at 4000 o gynhyrchwyr yn y dyfodol. Mae Carmo hefyd yn cymryd gofal estynedig o’r amgylchedd gan sicrhau eu bod yn stiwardiaid da i’r tir maen nhw’n ei ddefnyddio o Fazenda Floresta yn ogystal â hyrwyddo’r arferion hyn i’r ffermwyr maen nhw’n gweithio hefo. Ar hyn o bryd mae 40% o’r tir wedi’i ddynodi ar gyfer Cadwraeth Amgylcheddol Parhaol. Daw’r coffi hwn o fferm 90Ha Fazenda Pariso sydd wedi’i leoli ar uchder o 1300 -1500M ym Mrasil. Y perchennog yw Antonio Fortes, 81 oed, a brynodd y tir yn wreiddiol i dyfu cymysgedd o gnydau gan gynnwys coffi ac mae’n dal i fod wrth y llyw heddiw. Ar ôl cgydig o flynyddoedd, a chan sylweddoli bod coffi yn gnwd mwy proffidiol, dechreuodd blannu mwy o lwyni coffi. Yn anffodus roedd hyn yn cyd-daro a rhew caled a ddifethodd y coffi ond brwydrodd yn ôl a dechrau eto. O’r profiad yma darganfu fod y coffi’n tyfu’n well wrth ei blannu’n gymysg â choed banana. Mae Antonio wedi bod yn gweithio gyda Carmo Coffees er 2008 pan sylweddolodd ei rinweddau trwy gymeryd rhan yn eu cystadlaethau. Mae hyn wedi ei ysbrydoli i barhau gyda cynhyrchu coffi arbenigol a defnyddio rhywogaethau Mundo Novo, Bourbon Melyn, Catuai Melyn ac Acaia. Yn y cynhaeaf casglwyd y coffi â llaw yn ystod yr wythnos gyntaf o Awst cyn cael ei gludo i Felin Presente Do Sol lle mae’n cael ei arnofio a’i wahanu. Oddi yma ceith ei sychu ar batio am 3-4 diwrnod cyn ei drosglwyddo i sychwyr mecanyddol lle caiff ei sychu’n araf a chyson am 3 diwrnod ar 45 gradd C (gan roi tymheredd mewnol o 35 gradd C). Yna gadewir y coffi i orffwys mewn fatiau am 30 diwrnod cyn cael eu melino a’i dosbarthu.
Reviews
There are no reviews yet.