Description
Dechreuwyd gynhyrchu coffi ar Fferm Rancho Grande ym 1933, pan etifeddodd Mr Aneite Reis 5 hectar o lwyni coffi. Heddiw, mae’r fferm yn cael ei rhedeg gan José Carlos Reis a’i fab Flávio (Fafa) Reis, mab ac ŵyr i Mr. Aneite. Bwriad y fferm yw cynhyrchu coffi o’r ansawdd uchaf posibl heb esgeuluso pwysigrwydd diogelu’r amgylchedd a gofalu am les eu gweithwyr. Ar y fferm maent yn agored i newid a rhoi cynnig ar dechnegau newydd ac maent wedi buddsoddi mewn sawl blwch sychu statig i helpu i wella ansawdd a phroffil y coffi gallent gynhyrchu. Maent wedi bod yn gweithio’n galed ar wella ansawdd eu coffi ar gyfer y farchnad arbenigol a gweithio ar bob agwedd o gynhyrchu’r lotiau hyn o’r gofal tyfu, pigo i’r ôl-gynhaeafu. Ar ôl i’r coffi gael ei gynaeafu’n fecanyddol yna caiff ei wahanu gan ddefnyddio dwysedd sy’n gwahanu’r lefelau aeddfedrwydd. Yna dewisir y “boia” (ceirios aeddfed) a’r “boian” (ychydig yn rhy aeddfed) i’w rhoi yn y blychau sychu statig. Mae’r rhain yn flychau 1 m o ddyfnder sy’n dal 15000 litr, cyfateb i 25-30 sach o goffi gwyrdd. Cyfeirir atynt fel blychau statig oherwydd bod y coffi yn sefyll yn y blychau a pheidio â chael eu troi na’u cylchdroi wrth sychu. Ar ôl iddo gael ei sychu, gadewir y coffi i orffwys am oddeutu 1- 2 wythnos cyn cael ei drin. Mae’r dull hwn wedi caniatáu cynhyrchu blas sy’n amlygu mwy o ffrwyth yn y ffa i gymharu a’r proffil arferol rydyn ni’n eu cysylltu â choffi naturiol Brasil.
Reviews
There are no reviews yet.