Description
Mae Pomahuaca yn gyfuniad o lotiau gan gynhyrchwyr ar draws San Ignacio a Jaen yn Peru. Cyfrannodd 31 o wahanol gynhyrchwyr coffi i’r lot hon, a danfonwyd pob lot yn unigol i warws yn Jaen. Ffermydd bach sydd yn San Ignacio fel arfer, ar gyfartaledd mae gan dalaith Jaen 1 hectar o dir wedi’i blannu â choffi, a’r prif fathau sy’n cael eu tyfu yw Caturra, Typica a Catimor. Gan fod y cynhyrchwyr yn berchen ar ardaloedd gymharol fach o dir, yn gyffredinol maen nhw’n rheoli’r fferm, pigo a phrosesu’r ffa eu hunain, sychu’r coffi ar batios wedi’u leinio a phlastig yn eu tai.
Tynnwyd y caffein drwy broses dwr pefriog. Yn y broses yma, mae’r ffa gwyrdd yn cael ei gyfuno â dŵr CO2 i greu’r amodau sy’n gallu tynnu’r caffein heb amharu fawr ddim ar flas ac arogl y coffi.
Reviews
There are no reviews yet.