Site icon Rhostwyr Coffi Eryri Roasters

Coffi Eryri Tryfan

Un arall o’n blendiau gwreiddiol sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers sefydlu Coffi Eryri, hyd yn oed yn well y tymor yma gyda ychwanegiad y Bombe o Ethiopia.

Mae pob blend Coffi Eryri yn mynd i fod yn dymhorol, ond byddwn yn ymdrechu i gadw natur a blas y blend mor gyson a phosib.

50% Brazil – Fazenda Pantano, Brazil Nodiadau blasu: Oren a caramel gyda chorff hufen praline a siocled.

30% Colombia – Canas Gordas, Nodiadau blasu: Mafon a chiwi gyda chorff taffi melys a gorffeniad siocled tywyll

20% Ethiopia – Bombe. Nodau blasu: Bricyll melys, bergamot, jasmin a te du gyda corff llawn.

Exit mobile version