Description
Cyfle i dderbyn Llanrhôst yn rheolaidd, sawl opsiwn ar gael i ffitio i mewn gyda’ch anghenion.
Bydd eich archeb yn cael ei anfon allan ar y dydd Iau cyntaf o bob mis fel eich bod yn ei dderbyn i’w fwynhau dros y penwythnos!
Posib newid, oedi neu diddymu eich tanysgrifiad unrhyw bryd.
Llanrhost ydi un o’n blendiau mwya poblogaidd, ac wedi ennill gobr seren aur yn yn y Great Taste Awards eleni! Y cydbwysedd rhwng melysrwydd siocled coffi Brasil a cryfder blas coffi Colombia’n hyfryd!
Mae pob blend Coffi Eryri yn mynd i fod yn dymhorol, ond byddwn yn ymdrechu i gadw natur a blas y blend mor gyson a phosib.
50% Brazil – Rancho Grande. Proffil Cwpan: Ceirios coch gyda chnau cyll wedi’i rostio a gorffeniad siocled llaeth.
50% Colombia – Salvador Yaca. Nodau blas: Cyrens duon, sbeis melys tamarind a chorff siocled tywyll
Reviews
There are no reviews yet.