Description
Enwir y coffi hyfryd yma ar ôl Mynyddoedd y Bombe, lle mae’r mwyafrif o’r ffermwyr sy’n tyfu’r coffi yma’n byw. Wedi’i brosesu gyda amrywiad ar y broses golchi draddodiadol (y ffrwyth wedi’u tynnu o’r ffa cyn eu sychu) gan nad ydynt yn ychwanegu unrhyw ddŵr i’r tanc yn ystod eplesiad (ffermentio), ac felly mae’n eplesiad “sych”. Mae’r eplesiad sych yn cynnwys gadael i’r coffi orffwys mewn tanciau eplesu ar ôl dad-fwcilaiddio (dyma lle mae’r had wedi’i dynnu o’r ffrwyth). Mae’r broses hon yn defnyddio llawer llai o ddŵr ac wedi helpu’r cynaladwyedd amgylcheddol wrth ei gynhyrchu. Mae cynllun a rheolaeth dda gorsaf olchi Bombe yn caniatáu technegau prosesu arbennig, fel tanciau eplesu cysgodol a sianeli golchi yn ogystal â byrddau sychu cysgodol i’w defnyddio gyda’r coffi. Mae’r felin wlyb wedi’i threfnu’n dda ac yn cael ei rhedeg gan dîm gan gynnwys Atkilt Dejene, agronomegydd benywaidd sydd hefyd wedi gweithio gyda’r Prosiect Gesha Village, ymhlith eraill fel yr arbenigwr prosesu, Eyasu Bekele, a fuodd yn gweithio ar prosiect Reko Koba sawl blwyddyn yn olynol. Uchafswm capasiti gorsaf olchi Bombe ydi 2.5 miliwn Kg o geirios. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae’r safle yma wedi canolbwyntio ar gynnal ymroddiad caeth i gynhyrchu ansawdd rhagorol yn hytrach na cynyddu eu trosiant.
Reviews
There are no reviews yet.